Mae gwerth siopau dillad Topshop a Topman wedi codi i £2 biliwn heddiw wedi i’r teicŵn Syr Phillip Green werthu cyfran o 25% yn y brand ffasiwn.

Mae Grŵp Arcadia yr entrepreneur, sydd hefyd yn berchen ar Bhs, Burton a Dorothy Perkins, wedi derbyn £500 miliwn ar ôl cytuno i werthu’r siâr i’r cwmni ecwiti Americanaidd, Leonard Green & Partners.

Dywedodd Phillip Green, sy’n byw yn Monaco, y byddai’r cytundeb  yn helpu’r grŵp i ehangu brand Topshop a Topman yn rhyngwladol a’i fod yn golygu nad oes gan ei gwmni ddyled.