Bydd gweinidogion yn ceisio cael ymrwymiad gan olygyddion papurau newydd heddiw ynglŷn â datblygiadau i gytuno ar gorff annibynnol newydd i reoleiddio’r wasg.

Ar ôl iddi gyfarfod a ffigyrau amlwg o’r diwydiant ddydd Llun, rhoddodd yr Ysgrifennydd Diwylliant Maria Miller ddeuddydd i Fleet Street gyflwyno amserlen gweithredu.

Fe wnaeth golygyddion y papurau cenedlaethol gyfarfod ddoe i drafod ar y cyd  er mwyn trafod cynigion fydd yn ddigon cryf i atal corff rheoleiddio fydd yn cael ei gefnogi gan ddeddfwriaeth.