Mae’n bosib y bydd Aelodau’r Cynulliad yn cael eu galw yn ôl i’r Senedd dros y Nadolig wedi iddyn nhw bleidleisio yn erbyn newidiadau i’r budd-dal treth gyngor neithiwr.

Gall budd-daliadau treth gyngor i 330,000 o dai yng Nghymru gael eu heffeithio gan y bleidlais.

Yn y cyfarfod olaf cyn i’r Senedd ddod i ben dros gyfnod y Nadolig, cafodd y Llywodraeth eu trechu wedi i ACau wrthod rhuthro drwy’r rheolau newydd ar gyfer talu budd-dal treth cyngor.

Mae Llywodraeth San Steffan wedi trosglwyddo cyfrifoldeb am y budd-daliadau i lywodraethau datganoledig a chynghorau lleol.

Ond dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw wedi derbyn y ffigurau gan San Steffan yn hwyr brynhawn ddoe, oedd yn golygu na allen nhw baratoi mewn pryd.

Dywedodd y gwrthbleidiau eu bod nhw wedi derbyn dogfennau’r mesur, oedd dros dri chant o dudalennau, funudau’n unig cyn i’r bleidlais ddechrau.

‘Chwarae gwleidyddiaeth’

Dywedodd llefarydd llywodraeth leol y Ceidwadwyr yng Nghymru, Janet Finch-Saunders bod Llafur wedi “chwarae gwleidyddiaeth gyda mater a fydd yn effeithio ar gannoedd o filoedd o bobl ac mae hynny’n gwbl annerbyniol.

“Roedd pob manylyn yn eu dwylo ac nid oedd unrhyw reswm i Aelodau’r Cynulliad gael dim ond hanner awr i edrych dros 300 o dudalennau.

“Ni fyddai neb yn arwyddo cytundeb credyd personol neu forgais gyda dim amser i ddarllen.”

Byddai’r arian ychwanegol yn helpu mwy na 330,000 o deuluoedd tlawd yng Nghymru ac mae gweinidogion yn dweud y gallai’r oedi atal help hanfodol i bobl sydd ei angen.

Mae Llywodraeth Cymru yn debygol o ofyn am alw Aelodau’r Cynulliad i mewn yn ystod gwyliau’r Nadolig mewn ymgais i basio’r mesur fydd yn caniatáu i gynghorau lleol benderfynu ar lefelau treth gyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.