Fe fydd cwmni Virgin Trains yn parhau i gynnal gwasanaeth y Gorllewin, sy’n cynnwys trenau rhwng gogledd Cymru a Llundain, am 23 mis arall, fe gyhoeddwyd bore ma.
Roedd Virgin ar fin colli’r cytundeb ar gyfer y gwasanaeth mae’r cwmni wedi bod yn ei gynnal ers 1997.
Ond cafodd y broses dendro ei sgrapio gan y Llywodraeth ar ôl iddi ddod i’r amlwg bod yr Adran Drafnidiaeth wedi gwneud camgymeriadau yn ystod y broses dendro.
Fe fydd y cytundeb dros dro, a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth Patrick McLoughlin, yn golygu bod Virgin yn parhau i gynnal y gwasanaeth tan 9 Tachwedd 2014.