Carolau Gobaith
Am chwech o’r gloch heno, fe fydd yn bosib prynu rhoddion gan rai o sêr S4C ar y we er budd elusennau.
Fel rhan o gyfres tair rhan, Carolau Gobaith, mae chwech o wynebau amlwg am roi eitemau ar wefan ocsiwn eBay. Bydd yr ocsiwn yn dod i ben nos Sul 16 Rhagfyr.
Dechreuodd cyfres Carolau Gobaith neithiwr a phwrpas y rhaglen yw bod Tri Tenor Cymru – Rhys Meirion, Aled Hall ac Alun Rhys-Jenkins – yn mynd ati i ddysgu sêr S4C sut mae canu.
Y sêr a’u rhoddion yw:
- Y cyn pêl-droediwr Malcolm Allen: Sesiwn hyfforddi pêl droed awr a hanner ac ymweliad gan Malcolm i Noson Wobrwyo eich clwb ar ddiwedd y tymor.
- Yr awdures Catrin Dafydd: Darn unigryw wedi ei ysgrifennu yn arbennig i chi gan yr awdures a chasgliad o lyfrau wedi eu harwyddo ganddi.
- Y gyflwynwraig Mari Lovgreen: Ffrog coctel gan Coast roedd Mari yn ei gwisgo pan enillodd hi wobr Bafta Cymru. (Maint: 8)
- Yr actor Richard Ellis: Hwdi unigryw a gafodd ei gyflwyno yn ecsgliwsif i aelodau cast a chriw cyfres ddrama S4C – Gwaith/Cartref. (Maint: Mawr)
- Yr awdures gomedi Myfanwy Alexander: Tri Chorrach Bach i’r Ardd ar lun y Tri Tenor ac wedi eu harwyddo ganddynt.
- Cyn chwaraewr rygbi Rhodri Gomer Davies: Crys rygbi’r Scarlets wedi ei arwyddo gan aelodau’r tîm.
Yn ychwanegol i hyn mae’r Tri Tenor a chyflwynydd y gyfres Shân Cothi, wedi cyfrannu eitemau arbennig.
Mae’r Ti Tenor yn cynnig cyfle arbennig i ymuno â nhw yn y stiwdio wrth iddyn nhw recordio CD newydd, a rhodd Shân yw côt Karen Millen a wisgwyd gan y cymeriad Davina yn Con Passionate.
Bydd yr holl elw yn mynd i elusennau Ambiwlans Awyr Cymru, NSPCC a Gofal Canser Macmillan ac mae rhagor o wybodaeth am yr her a’r ocsiwn ar wefan S4C – s4c.co.uk/carolaugobaith.