Mae’r BBC yn rhybuddio na fyddan nhw’n gallu chwarae miloedd o ganeuon Cymraeg os na fyddan nhw’n dod i gytundeb gyda cherddorion.

Fe gafodd corff newydd ei sefydlu i gynrychioli cyfansoddwyr Cymraeg ac maen nhw’n galw am well taliadau am ddarlledu caneuon ar y radio a’r teledu.

Hyd yma, does dim cytundeb rhwng y BBC, S4C, y corff newydd, Eos, a’r corff sy’n gyfrifol am daliadau trwy wledydd Prydain, y PRS.

Fe fydd yr anghytundeb yn cael sylw ar raglen radio’r BBC Manylu pan fydd Pennaeth rhaglenni a gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru, Sian Gwynedd, yn dweud ei bod yn gobeithio am gytundeb buan.

Yn ôl Radio Cymru, fe allai’r ddadl arwain at dewi tuag 20,000 o ganeuon gan brif artistiaid fel Bryn Fôn, Dafydd Iwan, Huw Chiswell ac Elin Fflur.

‘Hanfodol’ cael cytundeb

“O safbwynt Radio Cymru mae cerddoriaeth Gymraeg yn gwbl greiddiol ac yn hanfodol ac felly hefyd i’r gwrandawyr,” meddai Sian  Gwynedd.

“Mae’n hanfodol bwysig i ni fod yna gytundeb a gobeithio y bydd pawb yn y trafodaethau yn bod yn rhesymol.”

Fe aeth y cerddorion ati i sefydlu corff Cymreig ar ôl i’r PRS ostwng taliadau am ganeuon Cymraeg.

Mae’r cyfansoddwyr a’r cyhoeddwyr Cymraeg yn galw am daliadau gwell na’r 50c y funud sydd ar gael ar hyn o bryd – roedden nhw’n arfer cael £7.50.

Yn ôl y cerddorion, roedden nhw wedi cyrraedd y pen ac roedd rhaid gweithredu oherwydd bod cyfansoddwyr yn colli cymaint o arian.

Y cefndir

Os na fydd y BBC, PRS ac S4C yn dod i gytundeb erbyn dechrau Ionawr, mae’r cerddorion yn bygwth atal yr hawl i chwarae eu gwaith.

Yn ôl y BBC, does dim cytundeb eto ynglŷn â faint o arian fydd yn cael ei dalu na sut y bydd yr arian yn cael ei rannu.