Gwyl y Dyn Gwyrdd
Roedd hi’n noson lwyddiannus neithiwr i ddwy ŵyl gerddorol sy’n cael eu cynnal yng Nghymru.
Cafodd y nawfed UK Festival Awards ei chynnal yn y Roundhouse, Llundain, ac maen nhw’n gwobrwyo’r gwyliau cerddorol gorau pob blwyddyn.
Fe enillodd Festival No6, a gynhaliwyd am y tro cyntaf eleni yn lleoliad unigryw Portmeirion, yr ŵyl newydd orau. Cafodd yr ŵyl ragor o lwyddiant wedi i’r band o Fanceinion, New Order, ennill gwobr am y ‘Perfformiad Gorau’ yn dilyn eu perfformiad nhw yno, ac fe gipiodd trefnydd Festival No6, Gareth Cooper, ‘Hyrwyddwr y Flwyddyn’.
Cipiodd gŵyl y Dyn Gwyrdd, sy’n cael ei gynnal ym Mharc Glanusk ger Crughywel, wobr ‘Gŵyl y Bobl’.
Dywedodd Steve Jenner, cyd-sylfaenydd y gwobrau: “Mae’n bleser gweld cymaint o wyliau newydd yn y categorïau eleni ac mae’n arwydd o’r symudiadau deinamig sy’n rhan o’r farchnad ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae’r UK Festival Awards yn dathlu ac yn uno diwydiant gwyliau cerddorol y DU sydd, er y cyfnod cythryblus, yn fwy hanfodol nag erioed. ”
Ac i’r rhai sy’n ystyried lle i osod eu pabell flwyddyn nesaf – gŵyl Lodestar, ger Caergrawnt, aeth a gwobr y ‘Tai Bach Gorau’.