Mae’r Pab wedi agor cyfrif Twitter mewn chwe iaith wahanol o dan yr enw @Pontifex.

Fe fydd y cyfrif yn cychwyn wythnos nesaf.

Dywed y Fatican y bydd ei drydar cyntaf ar ffurf cwestiwn ac ateb, ac y bydd yn canolbwyntio ar gwestiynau am ffydd.

Mae’r Fatican wedi ehangu ei defnydd o wefannau cymdeithasol er mwyn lledaenu’r ffydd, yn enwedig ymhlith pobl ifainc. Fe fydd negeseuon y Pab yn cychwyn ar 12 Rhagfyr.