Mae llanc 16 oed wedi cael ei arestio ar ôl tân mewn canolfan fysiau yng Nghasnewydd yn gynnar y bore ma.

Cafodd tri bws eu llosgi yng nghanolfan Bws Casnewydd ar Commercial Road tua 3 o’r gloch, a bu’n rhaid i drigolion o ddeg o fflatiau lleol adael eu cartrefi a mynd i Ganolfan Hamdden Casnewydd.

Cafodd y tân ei ddiffodd gan swyddogion Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ac ni chafodd neb ei anafu.

Mae’r llanc 16 oed, sy’n dod o Gasnewydd, wedi ei arestio gan Heddlu Gwent ar amheuaeth o gynnau tân yn fwriadol.