Tokyo
Mae rhan o un o dwneli hiraf Japan wedi dymchwel gan garcharu nifer o bobl yn eu ceir ac mae o leiaf saith o bobl ar goll.
Mae twnel Sasago rhyw hanner can milltir i’r gorllewin o Tokyo a dechreuodd darnau o goncrid ddymchwel ar ben ceir tua wyth o’r gloch y bore.
Fe waneth tân gynnau yn y twnel ac mae achubwyr eisoes wedi dod o hyd i gyrff wedi eu llosgi.
Roedd y mwg du oedd yn llifo allan o’r twnel am oriau gan atal yr achubwyr rhag mynd i mewn.
Mae llawer o’r rhai oedd yno ar y pryd yn feirniadol iawn o’r gwasanaethau brys am gymeryd tair awr i gyrraedd y lle.
Mae twnel Sasago bron i dair milltir o hyd ac yn un o’r prif ffyrdd allan o’r brifddinas, Tokyo.
Mae llefarydd ar ran y cwmni sy’n rheoli’r twnel a’r ffordd, Nexco, wedi dweud mai nam ar beiranneg saerniol y twnel achosodd i’r darnau gwympo.
Cafodd y twnel ei archwilio ddeufis yn ôl a’i gadarnhau’n ddiogel pryd hynny.