Tân yn y ffatri ym Mangladesh
Mae miloedd o bobol wedi cau strydoedd ym mhrifddinas Bangladesh ar ôl tân a laddodd o leia’ 112 o bobol mewn ffatri ddillad.

Fe ddaeth yn amlwg bellach nad oedd yna’r un ddihangfa frys yn yr adeilad wyth llawr lle’r oedd gweithwyr yn gwneud dillad i rai o gwmnïau mawr y Gorllewin, gan gynnwys Wal-Mart, perchnogion Asda.

Roedd 200 o ffatrïoedd wedi cau yn y brifddinas Dhaka wrth i weithwyr eraill lifo i’r strydoedd i brotestio gan daflu cerrig ac ymosod ar gerbydau.

Fe sgubodd tân trwy’r ffatri yn yr un ardal – roedd rhai gweithwyr wedi gorfod neidio o’r ffenestri; fe gafodd 100 o gyrff eu tynnu o’r gweddillion ac fe fu farw 12 arall yn yr ysbyty wedyn.

Mae undebau ym Mangladesh wedi bod yn protestio ers blynyddoedd am ddiffyg diogelwch ac amodau mewn ffatrïoedd.