Mae gormod o gleifion iechyd meddwl yn gorfod cymryd cyffuriau yn hytrach na chael dewisiadau eraill.

Mae llawer yn gorfod aros yn hir am archwiliadau cyflawn a mwy fyth am driniaethau fel therapi. Ac roedd tua hanner yn feirniadol hefyd o ganlyniadau eu triniaeth.

Yn ôl y mudiad iechyd meddwl, Gofal, sydd wedi cael ymatebion gan 1,000 o gleifion trwy Gymru, dyw rhai meddygon ddim yn gwybod digon am y maes ac mae eraill yn rhoi cyffuriau am fod y rhestrau aros yn rhy hir ar gyfer triniaethau eraill.

Arolwg

Yn ôl eu harolwg – sy’n ddechrau ar gyfres o arolygon blynyddol – mae dwy ran o dair o gleifion yn gorfod aros pedair wythnos am driniaethau fel Therapi Ymddygiad Gwybyddol – CBT. Mae chwarter yn aros pedwar mis.

“Os nad ydyn nhw’n cael triniaeth gynnar, mae cleifion yn mynd yn fwy a mwy gwael,” meddai Kate Dalton o Gofal wrth Radio Wales. “Yn y diwedd mae’n costio mwy i’r Gwasanaeth Iechyd ac mae’n costio i economi’r wlad.”

Bwriad Gofal yw cynnal arolwg blynyddol er mwyn mesur sut y mae pethau’n gwella.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno mesur newydd ar gyfer maes iechyd meddwl ac maen nhw’n dweud eu bod yn gweithredu i wella’r sefyllfa.