Llifogydd yn Rhostryfan
Mae disgwyl i Ogledd Cymru wynebu’r tywydd gwaethaf heddiw wrth i ragor o law trwm symud tua’r gogledd.

Gall dros fodfedd o law ddisgyn mewn mannau ac mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi cyflwyno rhybudd oren yng ngorllewin Eryri, lle mae disgwyl dros ddwy fodfedd o law.

Mae’r tywydd hefyd yn achosi problemau i deithwyr bore ma – does dim trenau rhwng Bangor a Chaergybi ac mae trenau rhwng Caergybi a Paddington yn Llundain wedi cael eu canslo. Mae trenau hefyd wedi cael eu canslo rhwng Llundain a De Cymru ac mae bysiau yn cludo teithwyr rhwng Cyffordd Llandudno a Chaergybi.

Mae ’na broblemau ar y ffyrdd hefyd ac mae gyrwyr yn cael eu cynghori i fod yn ofalus. Mae ’na lifogydd ar yr A499 rhwng Pwllheli a Llanbedrog ac mae’r A48 ym Maglan ger Castell nedd Port Talbot wedi cau i’r ddau gyfeiriad.

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi cyhoeddi tri rhybudd llifogydd yn Rhydeg, Dinbych-y-pysgod, Sir Benfro, Afon Rhyd Hir ger Teras Glan Afon ym Mhwllheli, ac Afon Dyfrdwy Isaf rhwng Llangollen a Chaer.

Ac mae 26 o rybuddion i baratoi am lifogydd gan gynnwys afon Conwy o Ddolwyddelan i Gonwy; ardaloedd o gwmpas yr afon Dysynni, o Dywyn i Minffordd; Ynys Mon; yng ngogledd Gwynedd o Abergwyngregyn i Aberdaron; a’r Afon Gwy ym Mhowys.

Mae trigolion mewn sawl ardal yn y gogledd, gan gynnwys Rhostryfan a Llanberis, yn dal i glirio’r llanast a achoswyd gan lifogydd wythnos ddiwethaf.

Cameron yn addo helpu

Yn y cyfamser mae’r Prif Weinidog wedi addo y bydd y Llywodraeth yn “sicrhau bod popeth yn cael ei wneud i helpu” ar ôl i wyntoedd cryfion a glaw trwm ladd un person a gorfodi cannoedd o bobl o’u cartrefi yn ne ddwyrain Lloegr dros y penwythnos.

Daeth sylwadau David Cameron wrth i Asiantaeth yr Amgylchedd ddatgelu bod mwy na 800 o gartrefi wedi cael eu heffeithio gan y llifogydd gyda miloedd o yrwyr ar draws yn wlad yn cael eu hachub o’u ceir.

Mae disgwyl i’r glaw trwm symud tuag at ganolbarth Lloegr yn ystod y dydd.

Cafodd dynes 21 oed a dau berson eu hanafu’n ddifrifol yn Exeter yn Nyfnaint ar ol i goeden ddisgyn oherwydd y gwyntoedd cryfion.