Mae Catalunya wedi symud gam yn nes at refferendwm annibyniaeth.
Er bod plaid y llywodraeth yno wedi colli seddi mewn etholiad ddoe, roedd mwyafrif clir wedi pleidleisio tros bleidiau sy’n cefnogi annibyniaeth ac fe addawodd yr Arlywydd y byddai’n galw refferendwm o fewn y pedair blynedd nesa’,
Roedd Arturo Mas wedi galw etholiad cynnar er mwyn ennill cefnogaeth mewn brwydr ariannol yn erbyn Llywodraeth Sbaen.
Mae’r canlyniad yn golygu y bydd rhaid iddo daro bargen i ffurfio clymblaid ond mae rhai pleidiau’n erbyn ei bolisi annibyniaeth ac eraill yn erbyn ei bolisïau ariannol.
Cosbi
Fe gafodd ei blaid, sydd i’r dde o’r canol – Cydgyfeiriad ac Undeb – ei chosbi am wneud toriadau llym yn yr economi ac fe enillodd pleidiau ‘Sbaenaidd’ saith sedd ychwanegol i gyrraedd cyfanswm o 28.
Roedd wedi gobeithio am fwyafrif clir yn y senedd, ond fe orffennodd gyda 50 o’r 138 sedd – cwymp o 12 a 18 yn llai na’r angen.
Ond yr ail blaid yn y senedd yw plaid genedlaetholgar y chwith – y cwestiwn yw a fydd hi’n fodlon anghofio anghytundeb tros bolisïau economaidd er mwyn cefnogi refferendwm.
Mae’r bleidlais yn golygu bod pleidiau cenedlaetholgar yn dal mwyafrif clir o’r holl seddi ac mae polau piniwn diweddar yn awgrymu cefnogaeth i annibyniaeth.
Y cefndir
Roedd yr etholiad wedi ei sbarduno gan frwydr ariannol rhwng llywodraethau Catalunya a Sbaen.
Yn ôl y Catalaniaid, maen nhw’n gorfod cymryd mwy na’u siâr o’r toriadau gwario sydd wedi eu cyflwyno gan y llywodraeth ym Madrid.
Catalunya yw talaith fwya’ llewyrchus Sbaen.
Barn arbenigwr
“Mae’r bleidlais wedi ei rhannu ond mae’r neges yn glir,” meddai Ferran Requejo, Athro Gwyddor Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Pompeu Fabra yn y brifddinas, Barcelona.
“Mae dwy ran o dair o’r etholwyr wedi pleidleisio tros bleidiau sydd eisiau galw refferendwm annibyniaeth ond mae Arturo Mas wedi cael ei daro’n galed am ei bolisïau cyni.”