Mae Israel a Hamas yn parhau i saethu at ei gilydd heddiw ar chweched diwrnod yr anghydfod, tra bod trafodaethau yn digwydd er mwyn ceisio cael cadoediad rhwng y ddwy ochr.

Mae adroddiadau fod dros 100 o Balestiniaid bellach wedi cael eu lladd yn yr anghydfod wrth i Israel ddial am y rocedi sy’n cael eu hanfon gan Hamas o Gaza. Tarodd un ohonyn nhw ysgol wag heddiw yn ne Israel.

Cafodd ugain o rocedi eu rhyng-gipio gan system wrth-daflegrau Israel.

Ymosododd Israel ar adeilad y cyfryngau yn Gaza heddiw gan ladd un ac anafu o leiaf tri arall.

Mae’r Aifft wedi bod yn arwain trafodaethau heddwch rhwng Israel a Hamas, ond mae’r ddwy ochr yn mynnu bod eu hamodau nhw yn cael eu cwrdd. Mae Israel wedi bygwth anfon ei byddin i mewn i Gaza os na fydd cadoediad yn digwydd.