Savita Halappanavar
Mae tad y ferch o India a fu farw ar ôl i feddygon yn Iwerddon wrthod erthyliad iddi wedi galw ar Brif Weinidog y wlad i newid deddfau’r wlad ar erthyliad.

Mewn apêl uniongyrchol at Taoiseach Enda Kenny, dywedodd Andanappa Yalagi y byddai newid y deddfau “yn achub bywydau nifer fawr  ferched yn y dyfodol.”

Bu farw merch Mr Yalagi, Savita Halappanavar, oedd yn 31 oed, mewn ysbyty yn Galway ar ôl dioddef erthyliad naturiol a septicaemia.

Mae ei gŵr Oraveen wedi honni fod ei wraig wedi pledio ar feddygon i roi erthyliad iddi. Mae’n honni ei bod nhw wedi gwrthod gan ddweud fod Iwerddon yn wlad Babyddol.

Galwodd Mr Yalagi hefyd ar lywodraeth India i godi’r mater gyda llywodraeth Iwerddon.

Mae Llywodraeth Iwerddon wedi derbyn adroddiad am erthylu gan banel o arbenigwyr yr wythnos ddiwethaf, ac mae dau ymchwiliad yn cael eu cynnal i farwolaeth Mrs Halappanavar.