David Davies
Mae aelod seneddol Mynwy, David Davies, wedi dweud wrth brif ohebydd y Western Mail, Martin Shipton, mai chwedl yn bennaf oedd hanes y Welsh Not yn ysgolion Cymru er mwyn annog rhagfarn yn erbyn y Saeson.
Dywedodd David Davies ei fod yn bryderus fod adroddiadau anghywir am y Welsh Not wedi rhoi’r argraff i bobol ifanc Cymru fod Llywodraeth Prydain wedi bod yn gyfrifol am atal yr iaith Gymraeg yn ystod y 19eg ganrif. Doedd hynny ddim wedi digwydd, meddai.
Roedd wedi ymchwilio i’r Welsh Not, meddai. Roedd y Llyfrau Gleision a gyhoeddwyd yn 1847 yn sôn am y Welsh Not ond roedd hynny ymhell cyn unrhyw ymyrraeth gan y llywodraeth i’r system addysg, meddai David Davies.
“Hyd nes Deddf Addysg 1870, doedd gan y wladwriaeth ddim rhan i’w chwarae mewn ysgolion, felly doedd yr hyn a welwyd gan yr arolygwyr a ysgrifennodd y Llyfrau Gleision ddim oll i’w wneud gyda’r Llywodraeth.
“Roedd yr athrawon a weithredodd y Welsh Not yn Gymry a byddai’r gosb wedi ei weithredu gyda chaniatâd rhieni.
“Wrth gwrs, does gen i ddim cydymdeimlad gyda’r Welsh Not ond mae’n bwysig cydnabod nad oedd wedi cael ei orfodi gan Lywodraeth Prydain,” ychwanegodd.
Llywodraeth Geidwadol Brydeinig wnaeth sicrhau fod dysgu Cymraeg mewn ysgolion yn orfodol hyd at lefel TGAU, meddai David Davies.