Mae o leiaf 11 o bobl wedi cael eu lladd mewn tân mewn tref sianti ym Mangladesh.
Dechreuodd y tân yn oriau man bore heddiw yn y dref sianti ar gyrion prifddinas Bangladesh, Dhaka.
Mi gafodd 500 o gartrefi eu difrodi.
Mae swyddogion lleol wedi dweud fod pum dynes a phedwar o blant ymysg y rhai a gafodd eu lladd.
Mae ymchwiliadau’n parhau i darddiad y tân. Mae adroddiadau cynnar yn awgrymu ei bod hi’n bosib mai sigarét neu goil mosgito wnaeth achosi’r tân.
Fe ledodd y tân yn gyflym. Roedd mwyafrif o’r tai yn gabanau wedi eu gwneud o dun, bambŵ a chynfasau plastig.