Y ddau'n wynebu'i gilydd mewn dadl deledu (PA)
Mae Barack Obama a Mitt Romney yn ôl yn ymgyrchu’n llawn yn y ras am y Tŷ Gwyn yn yr Unol Daleithiau.
Roedd yr Arlywydd wedi rhoi’r gorau i’r canfasio am fwy na thridiau oherwydd storm fawr Sandy sydd wedi lladd mwy na 50 o bobol a chreu difrod mawr tros ddwyrain y wlad.
Ond heddiw, fe fydd yn ôl gyda ralïau mewn tair o’r taleithiau allweddol tra bydd Mitt Romney’n canolbwyntio ar Virginia.
Mae tua naw talaith sy’n hollbwysig bellach – ennill taleithiau yw’r nod yn hytrach nag ennill mwyafrif y pleidleisiau ar draws y wlad.
Obama ar y blaen?
Mae’r ras yn parhau’n agos ond y gred yw bod Barack Obama ychydig ar y blaen yn y taleithiau hynny.
Mae 19 miliwn o bobol wedi pleidleisio eisoes ac mae rhai taleithiau wedi cyhoeddi i ba un o’r ddwy blaid y maen nhw’n perthyn.
Mae hynny’n awgrymu bod y Democratiaid ar y blaen mewn pum talaith a’r Gweriniaethwyr yn arwain mewn un.
‘Celwydd’ meddai Biden
Mae’r ras yn chwerwi hefyd yn nhalaith Ohio, lle mae’r Gweriniaethwyr yn cael eu cyhuddo o ddangos hysbyseb “gelwyddog”.
Mae honno’n honni bod arian a roddodd y Llywodraeth at achub y diwydiant ceir yn cael ei ddefnyddio i greu swyddi yn China.
Yn ôl y Dirprwy Arlywydd, Joe Biden, dyma’r hysbyseb “fwya’ digywilydd o gelwyddog” y mae’n ei chofio.