New York Times
Mae yna amheuon ynghylch pa mor addas yw Cyn-Gyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, Mark Thompson, ar gyfer swydd prif weithredwr newydd y New York Times.
Mae disgwyl i Mark Thompson ddechrau ar ei swydd newydd ymhen mis, ond mae yna amheuon oherwydd yr honiadau diweddar yn erbyn Jimmy Savile.
Yr wythnos diwethaf, ysgrifennodd golygydd y New York Times, Margaret Sullivan, golofn yn cwestiynu honiadau nad oedd Mark Thompson yn ymwybodol o ymchwiliad gan Newsnight i ymddygiad Savile.
Ni chafodd yr ymchwiliad ei ddarlledu.
Heddiw, mae colofnydd y papur, Joe Nocera wedi cwestiynu sgiliau arwain Mark Thompson, yn ogystal â chyflwr y gorfforaeth o dan ei arweiniad.
Mae ymchwiliad eisoes wedi cael ei sefydlu, dan arweiniad pennaeth Sky News Nick Pollard, er mwyn darganfod pam y cafodd y rhaglen ei gollwng o amserlen y BBC.
Daeth i’r amlwg fod mwy na 300 o honiadau o gam-drin gan Jimmy Savile yn nwylo’r heddlu.
Olynydd Mark Thompson fel Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, George Entwistle fydd yn ateb cwestiynau’r ymchwiliad ar ran y Gorfforaeth.
Dywedodd Margaret Sullivan yn ei cholofn: “Mae’n werth ystyried nawr ai fe yw’r person cywir am y swydd o ystyried y digwyddiadau hyn.”
Mae’r Fonesig Janet Smith yn arwain ymchwiliad i ymddygiad ac awyrgylch y BBC yn ystod y blynyddoedd y bu Jimmy Savile yn gweithio i’r sefydliad.
Daeth i’r amlwg ddoe fod y BBC wedi gwahardd y cyflwynydd rhag bod yn rhan o ddigwyddiadau Plant Mewn Angen oherwydd amheuon ynghylch ei ymddygiad gyda phobl ifanc.