Barack Obama
Mae Arlywydd America, Barack Obama wedi gohirio rali etholiadol yn Fflorida gan ei fod yn dychwelyd i Washington i arwain ymateb y llywodraeth i gorwynt Sandy ar arfordir dwyreiniol y wlad.
Mae ei wrthwynebydd yn y ras am yr arlywyddiaeth, Mitt Romney wedi gohirio nifer o ddigwyddiadau hefyd, wedi iddo fod yn ymgyrchu heddiw.
Roedd Obama eisoes wedi cyrraedd Fflorida nos Sul, ond penderfynodd ddychwelyd i gyhoeddi stad o argyfwng ar draws y wlad.
Roedd disgwyl i’r rali gael ei ad-drefnu yn nes ymlaen heddiw, ond doedd dim sicrwydd y gallai Obama gyrraedd Washington yn ddiogel pe bai’n aros.
Wyth diwrnod sydd i fynd cyn yr etholiad, ac roedd disgwyl i’r ymgyrchu ddwysáu yn y dyddiau nesaf.
Ond mae pedair talaith bwysig yn y ras – Gogledd Carolina, Virginia, Ohio a New Hampshire – yn paratoi ar gyfer effeithiau’r corwynt.
Roedd disgwyl i Mitt Romney fod yn Ohio, Iowa a Winsconsin heddiw.
Mae polau piniwn yn awgrymu mai Obama sydd ar y blaen o drwch blewyn.
Yn y cyfamser, mae’r chwilio’n parhau am nifer o aelodau o griw HMS Bounty oddi ar arfordir Gogledd Carolina.
Roedd yn rhaid i 16 o bobl adael y llong wrth iddi fynd i drafferthion, ond mae dau yn dal ar goll.
Mae’r llong wedi ymddangos mewn nifer o ffilmiau, gan gynnwys Pirates of the Caribbean.
Mae corwynt Sandy yn nesáu at arfordir y dalaith.