Mae trigolion ar arfordir dwyreiniol yr Unol Daleithiau yn paratoi ar gyfer Corwynt Sandy, sy’n bygwth creu difrod yn Efrog Newydd.

Dros nos, cyrhaeddodd y corwynt o fewn 470 milltir i’r ddinas.

Mae yna bryderon y gallai fod yn un o’r corwyntoedd gwaethaf yn hanes y wlad.

Gallai’r corwynt effeithio ar fwy nag 800 milltir o dir, ac mae’r Unol Daleithiau mewn cyflwr o argyfwng.

Mae cwmnïau awyr wedi gohirio mwy na 7,600 o deithiau, ac mae’r gwasanaeth trenau hefyd wedi cael ei effeithio.

Mae disgwyl i ysgolion a gorsafoedd tanddaearol gau yn Efrog Newydd, Philadelphia, Boston, Washington a Baltimore.

Cafodd degau o filoedd o drigolion ar hyd yr arfordir orchymyn dros nos i adael eu cartrefi cyn i’r corwynt daro.

Mae gwyntoedd wedi cyrraedd cyflymdra o 75 milltir yr awr.

Gallai hyd at fetr o law gwympo yn y wlad, ac mae rhai taleithiau yn paratoi ar gyfer eira.

Rhybuddiodd yr awdurdodau y gallai llifogydd effeithio ar dwnelau tanddaearol a thrydan sy’n hanfodol ar gyfer gwasanaethau ariannol y wlad.

Cyfnewidfa stoc

Bydd adeilad cyfnewidfa stoc Efrog Newydd ar gau heddiw, ond bydd masnachu’n parhau ar y we.

Mae’r Arlywydd Obama, sydd wrthi’n ymgyrchu ar gyfer yr etholiadau arlywyddol, wedi addo ymateb chwim i’r difrod fydd yn cael ei achosi gan y corwynt.

Dywedodd: “Fy neges i’r llywodraethwyr a’r meiri yw os ydyn nhw angen rhywbeth, byddwn ni yno, a byddwn ni’n torri trwy’r bwirocratiaeth.

“Dydyn ni ddim yn mynd i gael ein hatal gan lawer o reolau.”

Cafodd y bleidlais gynnar yn Washington a Maryland ei gohirio heddiw.