Senedd Gwlad Groeg
Mae cannoedd o bobl wedi bod yn taflu bomiau petrol, poteli a cherrig at yr heddlu yn ystod protest dreisgar yng Ngwlad Groeg.
Bu farw un o’r protestwyr ar ôl iddo gael trawiad ar y galon yn ystod y brotest, meddai’r Gweinidog Iechyd. Cafodd y dyn 65 oed ei gludo i’r ysbyty ond bu farw er gwaetha’r ymdrechion i’w achub.
Roedd yr heddlu wedi ymateb drwy ddefnyddio nwy dagrau a grenadau llonyddu ar y protestwyr tu allan i’r Senedd yn Athen. Cafodd pedwar o bobl eu hanafu a tua 50 eu harestio.
Streic
Yn ôl yr awdurdodau fe fu 70,000 o brotestwyr ar y strydoedd yn ystod yr ail streic gyffredinol yn y wlad o fewn mis. Mae’r gweithwyr wedi bod yn protestio yn erbyn toriadau llymach mewn gwariant cyhoeddus wrth i’r Llywodraeth drafod sut i fynd i’r afael a’i dyledion gyda chredydwyr rhyngwladol.
Bwriad y mesurau ar gyfer 2013-14, sy’n werth £11 biliwn, yw ceisio atal y wlad rhag methdalu gyda’r posibilrwydd y byddai’n gorfod gadael parth yr ewro.
O ganlyniad i’r streic bu’n rhaid canslo teithiau awyrennau, cafodd ysgolion, ysbytai a siopau eu cau, roedd ’na drafferthion ar drafnidiaeth gyhoeddus, ac roedd llongau fferi sy’n teithio rhwng yr ynysoedd wedi aros yn y porthladdoedd.