Leanne Wood
Mae Leanne Wood wedi cyhoeddi newidiadau i gabinet cysgodol Plaid Cymru yn dilyn atal Bethan Jenkins o grŵp y Blaid ar ôl iddi gael ei harestio am yfed a gyrru nos Sul.
Mae hen gyfrifoldebau Bethan Jenkins dros Chwaraeon a Threftadaeth yn cael eu trosglwyddo i Lindsay Whittle, Aelod Dwyrain De Cymru a’i chyfrifoldeb am yr iaith i Simon Thomas.
Mae Lindsay Whittle yn ei dro yn trosglwyddo meysydd Plant a Chydraddoldeb i Jocelyn Davies, ond mae e’n parhau gyda chyfrifoldeb dros Wasanaethau Cymdeithasol.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood: “Mae gan Blaid Cymru grŵp hynod dalentog a dawnus o Aelodau Cynulliad ym Mae Caerdydd sydd wedi ymrwymo i wasanaethu’r cymunedau maen nhw’n eu cynrychioli.
“Gwella’r economi a chreu swyddi i bobl yng Nghymru yw canolbwynt ein gwaith, a byddwn yn parhau i wneud popeth yn ein gallu i wella bywydau pobl Cymru.”
Dyma’r cabinet cysgodol yn llawn, sydd wedi cael ei gwtogi o 11 aelod i 10 yn dilyn atal Bethan Jenkins.
Leanne Wood AC Arweinydd
Jocelyn Davies AC Rheolwr Busnes, Prif Chwip, Plant a Chydraddoldeb
Rhodri Glyn Thomas AC Ewrop, Llywodraeth Leol, Cymunedau, Tai a Thrafnidiaeth; Comisiynydd
Ieuan Wyn Jones AC Cyllid a’r Cyfansoddiad
Elin Jones AC Iechyd
Simon Thomas AC Addysg, Addysg Uwch, Sgiliau a’r Iaith Gymraeg
Alun Ffred Jones AC Economi, Ynni, Adfywio a Darlledu
Dafydd Elis-Thomas AC Materion Gwledig, Pysgodfeydd a Bwyd
Linsday Whittle AC Gwasanaethau Cymdeithasol, Treftadaeth a Chwaraeon
Llŷr Huws Gruffydd AC Amgylchedd