Guto Bebb
Mae Guto Bebb wedi dweud fod y Ddeddf Iaith a basiwyd dan y Ceidwadwyr yn 1993 yn gryfach na Mesur Iaith y Cynulliad dan y glymblaid Llafur-Plaid Cymru yn 2011.
Roedd Aelod Seneddol Conwy yn siarad ar lawr Tŷ’r Cyffredin, a honnodd fod Llafur a Phlaid Cymru wedi gwanhau Deddf 1993 am fod Comisiynydd y Gymraeg yn edrych yn unig ar feysydd sydd wedi cael eu datganoli.
“Mae hyn wedi arwain at wanhau diogelwch y Gymraeg mewn cyrff sydd heb gael eu datganoli,” meddai Guto Bebb.
Yn ddiweddar cafodd papurau pleidleisio uniaith Saesneg eu hargraffu gan y Swyddfa Gartref ar gyfer etholiadau comisiynwyr yr heddlu, a ddoe cyhoeddodd Ysgrifennydd Cymru David Jones fwriad i gael aelod o staff Comisiynydd y Gymraeg i weithio o fewn Swyddfa Cymru.
‘Gwell i Guto Bebb gael gair gyda David Jones’
Alun Ffred Jones oedd y Gweinidog gyda chyfrifoldeb dros y Gymraeg yn 2011, a dywedodd fod sylwadau Guto Bebb yn “rybish.”
“Dydy Deddf Iaith 1993 ddim yn ymrwymo cyrff y Goron i unrhyw beth os nad ydyn nhw am wneud.
“Dyna pam nad yw hi’n bosib cael tystysgrifau geni a ffurflenni amlosgi yn Gymraeg.
“Gwendid y setliad cyfansoddiadol rhwng y Cynulliad a San Steffan yw bod gynnon ni ddim grym dros feysydd sydd heb eu datganoli.”
Gan gyfeirio at fwriad Swyddfa Cymru i gyfeirio dwy o ddeddfau’r Cynulliad i’r Goruchaf Lys, dywedodd Alun Ffred Jones mai “safbwynt greddfol y Torïaid yw peidio rhoi mwy i Gymru nag sydd rhaid.”
“Byddai’n well i Guto Bebb edrych ar weithredoedd ei blaid ei hun a chael gair gyda David Jones,” meddai Alun Ffred Jones.
“Mae holl agwedd y Torïaid at ddatganoli i’w weld yn ymddygiad David Jones,” meddai.
Ymateb Arweinydd Tŷ’r Cyffredin
Dywedodd Andrew Lansley fod Swyddfa Cymru yn mynd i’r afael â’r sefyllfa ac yn gweithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg a gyda’r adrannau a chyrff sydd heb gael eu datganoli er mwyn hyrwyddo’r Gymraeg.
“Fe wna i gysylltu gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru a gofyn iddo fod yn ymwybodol o sylwadau’r cyfaill anrhydeddus, ac ymateb iddo,” meddai Andrew Lansley.