Catherine Gowing
Mae Heddlu’r Gogledd wedi cael 36 awr ychwanegol i holi dyn 46 oed ynglŷn â diflaniad milfeddyg yn ardal yr Wyddgrug.

Mae’r dyn, sy’n dod o Wynedd, yn cael ei holi ar amheuaeth o lofruddio Catherine Gowing.

Dywed yr heddlu eu bod yn bryderus iawn am ddiogelwch Catherine, sydd heb gael ei gweld ers nos Wener, 12 Hydref.

Mae ei chwaer, Emma Gowing, wedi gwneud apêl emosiynol am help y cyhoedd i ddod o hyd i’w “chwaer brydferth” ac i  “wneud popeth yn eu gallu” i helpu gyda’r ymchwiliad.

Asda

Yn dilyn apêl gynharach am wybodaeth gan y cyhoedd mae’r heddlu bellach wedi darganfod bod Catherine, sy’n dod o Sir Offaly yn ne Iwerddon yn wreiddiol, wedi cael ei gweld yn archfarchnad Asda am 8.06yh nos Wener a’i bod wedi gadael tua 8.40yh.

Roedd hi’n gwisgo jîns glas, top brown golau khaki gyda llewys gwyn. Roedd hi’n gwisgo esgidiau fflat ac roedd ei gwallt brown wedi’i glymu i fyny.

Roedd ganddi fag brown ar draws ei chorff ac roedd yn cario bag plastig Asda a bocs tebyg i focs pizza.

Cyn hynny cafodd ei gweld yn gadael ei gwaith ym Milfeddygfa Evans yn Heol Clayton yn yr Wyddgrug tua  7yh nos Wener. Nid oedd wedi dychwelyd i’w gwaith fore dydd Llun. Mae hyn yn hollol groes i’w chymeriad, medd yr heddlu.


Car Catherine Gowing
Renault Clio

Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd John Hanson:“Ein blaenoriaeth yw dod o hyd i Catherine ac rydym yn annog unrhyw un sydd wedi gweld ei char Renault Clio sydd â’r rhif cofrestru Gwyddelig 00D99970 i gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar 101.

“Nid yw hyn fel Catherine o gwbl ac ni ellir gorbwysleisio’r angen am gymorth y cyhoedd yn yr ymchwiliad hwn.”

Fe ddylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111.