Lance Armstrong
Mae’r seiclwr Lance Armstrong wedi rhoi’r gorau i fod yn gadeirydd ei elusen ganser Livestrong, ac mae Nike hefyd wedi rhoi’r gorau i’w noddi yn dilyn adroddiadau ei fod wedi cymryd cyffuriau i wella ei berfformiad.
Cafodd Armstrong, a enillodd y Tour de France saith gwaith, ei wahardd rhag seiclo’n gystadleuol am weddill ei oes gan Asiantaeth Wrth Gyffuriau’r Unol Daleithiau (USADA), ar ôl iddo benderfynu peidio herio’r cyhuddiadau yn ei erbyn.
Serch hynny, mae Lance Armstrong yn mynnu nad oedd wedi defnyddio cyffuriau.
Wythnos ddiwethaf roedd USADA wedi cyhoeddi adroddiad, oedd yn cynnwys tystiolaeth gan 11 o gyn-aelodau o dîm Lance Armstrong, oedd yn dod i’r casgliad bod y tîm wedi cynnal system gyffuriau “soffistigedig a phroffesiynol na welwyd ei debyg yn y gamp erioed.”
Fe benderfynodd Lance Armstrong drosglwyddo cadeiryddiaeth Livestrong i’r dirprwy gadeirydd Jeff Garvey “er mwyn atal unrhyw effaith negyddol yn sgil yr helynt yn ymwneud â fy ngyrfa seiclo” meddai.
Fe fydd Nike yn parhau i gefnogi Livestrong ond mae eu cytundeb gydag Armstrong wedi dod i ben yn dilyn y dystiolaeth yn ei erbyn a’r ffaith iddo “gamarwain Nike am fwy na degawd.”