Chris Coleman
Roedd rheolwr Cymru’n hapus gyda’r “galon” a ddangosodd ei dîm wrth golli o 2-0 yn Croatia, ond roedd yn fflamio’r camgymeriad a arweiniodd at y gôl gynta’.

“Rhaid i ni gael gwared ar bethau fel yna i roi cyfle i ni ein hunain,” meddai Chris Coleman. “Er ein bod wedi ymladd yn galed, rhaid i ni ddileu camgymeriadau unigol fel yna.”

Mae amddiffynnwr Cymru, Ashley Williams, wedi cyfadde’ mai camgymeriad oedd ceisio pasio’n ôl at y gôl-geidwad ar gae gwael.

Wrth geisio cyrraedd y bas fer, roedd y goli Lewis Price wedi taro’r bêl yn erbyn chwaraewr Croatia, Mario Mandzukic, a hwnnw wedi ymateb yn gynt i sgorio.

Tan y gôl honno, ar ôl 27 munud, roedd Cymru wedi llwyddo i ddal Croatia sy’n cael eu hystyried yn un o dimau gorau Ewrop. Fe sgorion nhw ail ar ôl 58.

Gwrthod ildio

Er fod Cymru wedi colli tair o’u pedair gêm gynta’ yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2014, mae Coleman yn gwrthod cydnabod fod popeth ar ben.

Fe fydd y gwledydd i gyd yn tynnu pwyntiau oddi ar ei gilydd, meddai, ac mae yna bedair gêm ar ôl.

Mae Cymru wedi colli gartre’ i Wlad Belg, oddi cartre’ i Serbia a Croatia ac wedi curo’r Alban 2-1 gartre’ nos Wener.

Arwr y gêm honno, Gareth Bale, oedd chwaraewr amlyca’ Cymru neithiwr hefyd, gyda sawl rhediad da, ambell ergyd beryglus a phasiau a greodd gyfleoedd da i chwaraewyr eraill.

Er gwaetha’i gamgymeriad yntau gyda’r  gôl gynta’, fe wnaeth Lewis Price hefyd gyfres o arbedion da.