Mae bwtler y Pab wedi cael ei ddedfrydu i 18 mis o garchar am ddwyn dogfennau cyfrinachol o ystafell y Pab a’u rhyddau i newyddiadurwr.

Cafodd dedfryd Paolo Gabriele ei gostwng o dair blynedd i 18 mis am ei fod wedi gweithio i Esgobaeth y Pab ers blynyddoedd, nid oedd wedi cyflawni trosedd o’r blaen, ac roedd yn argyhoeddedig ei fod yn gwneud y peth iawn, meddai’r barnwr  Giuseppe Dalla Torre.

Roedd Gabriele wedi cael ei gyhuddo o ddwyn dogfennau preifat y Pab a’u rhyddhau i’r newyddiadurwr Gianluigi Nuzzi oedd wedi ysgrifennu llyfr yn datgelu manylion am honiadau o lygredd a charwriaethau gwrywgydiol o fewn yr Eglwys Gatholig.

Wrth apelio i’r llys bore ma dywedodd Gabriele ei fod wedi dwyn y dogfennau oherwydd ei gariad tuag at yr eglwys a’r Pab, a’i fod yn teimlo nad oedd y Pab yn cael gwybod am y “llygredd” yn y Fatican, ac y byddai datgelu’r problemau yn rhoi’r eglwys yn ôl ar y trywydd iawn.