Yr Arlywydd Bashar Assad
Mae Twrci wedi taro’n ôl ar Syria am y pedwerydd diwrnod yn olynol ar ôl i fom lanio ger pentref ar y ffin rhwng y ddwy wlad.

Yn ôl Asiantaeth Anadolu, roedd y mortar wedi glanio mewn ardal wledig ger pentref Guvecci, yn nhalaith Hatay yn ystod ymladd ffyrnig rhwng lluoedd Bashar Assad a gwrthryfelwyr yn nhalaith Idlib yn Syria.

Roedd milwyr Twrci ger Guvecci wedi taro’n ôl, medd yr asiantaeth.

Mae milwyr Twrci wedi bod yn ymateb i ymosodiadau gan Syria ers dydd Mercher, pan laniodd bom ar y ffin, gan ladd pump o bobl.

Mae Senedd Twrci hefyd wedi pleidleisio o blaid caniatáu ymgyrchoedd milwrol yn Syria, gan ddwysau’r tensiynau rhwng y ddwy wlad.