Abu Hamza
Mae disgwyl i’r clerigwr dadleuol Abu Hamza gyrraedd yr Unol Daleithiau heddiw i wynebu cyhuddiadau yn ymwneud a therfysgaeth ar ôl iddo gael ei estraddodi o Brydain ddoe, ynghyd a phedwar o derfysgwyr honedig.
Cafodd y pump eu cludo mewn dwy awyren oedd wedi gadael safle milwrol yn Suffolk yn hwyr neithiwr, meddai’r Ysgrifennydd Cartref Theresa May.
Roedd y pump wedi colli eu hapêl olaf ddoe yn yr Uchel Lys yn Llundain yn erbyn cael eu hestraddodi i’r UDA.