April Jones
Mae gan Heddlu Dyfed Powys, sy’n ymchwilio i ddiflaniad April Jones, tan 5 o’r gloch prynhawn ma i gyhuddo neu ryddhau Mark Bridger, y dyn sydd wedi cael ei arestio ar amheuaeth o’i llofruddio.

Mae  chwilio am y ferch 5 oed o Fachynlleth wedi ail-ddechrau bore ma. Daeth y chwilio i ben dros nos fel bod timau arbenigol, sydd wedi bod yn chwilio am April yn ddiflino ers iddi  gael ei chipio nos Lun, gael gorffwys.

Cafodd yr heddlu 24 awr ychwanegol i holi Mark Bridger, 46, neithiwr ac fe fydd yn rhaid penderfynu a fyddan nhw’n ei gyhuddo neu ei ryddhau.

Fe ddiflanodd April Jones tua 7yh nos Lun, 1 Hydref wrth iddi chwarae ar ei beic tu allan i’w chartref ar stad Bryn-y-Gog. Er gwaethaf ymdrechion cannoedd o wirfoddolwyr a thimau achub, does neb wedi llwyddo i ddod o hyd iddi hyd yn hyn.