Cwpan Ryder
Methodd Capten Tîm Ewrop ag ysbrydoli ei chwaraewyr ar ail ddiwrnod cystadleuaeth Cwpan Ryder yn Medinah.

Roedd chwaraewyr Jose Maria Olazabal yn colli o 5 – 3 ar ddiwedd y diwrnod cyntaf ac erbyn hyn mae nhw ar ei hôl hi o 6 gêm i 3.

Roedd Olazabal wedi dweud “ei fod am ei gwneud hi’n glir i’r hogiau bod rhaid iddyn nhw chwarae gwell golf – roedd hi mor syml a hynny.”

Yn anffodus, yr Americanwyr aeth ar y blaen o’r cychwyn cyntaf yn y gystadleuaeth i bedwar.

Wrth sylwebu ar deledu yn yr UDA dywedodd cyn gapten tîm Ewrop, Colin Montgomerie, bod pethau yn edrych yn go ddu.

“Ar hyn o bryd mae’n edrych mai dim ond un ennillydd sydd ,” meddai. “Mae’n rhaid i ni newid pethau ond tydyn ni ddim yn gwneud rhyw joban dda ohoni.”