Caerdydd 3–0 Blackpool

Sgoriodd Matthew Connolly ddwy gôl wrth i Gaerdydd drechu Blackpool yn Stadiwm Dinas Caerdydd brynhawn Sadwrn. Mae’r Adar Gleision bellach wedi ennill pob un o’u pedair gêm gynghrair gartref yn y Bencampwriaeth y tymor hwn.

Roedd y tîm cartref ddwy gôl ar y blaen ar yr egwyl diolch i gôl gyntaf Connolly a chic rydd wych Wittingham, a sicrhaodd Connolly’r tri phwynt gyda’i ail ef yn gynnar yn yr ail gyfnod.

Daeth gôl gyntaf Connolly wedi ychydig dros chwarter awr yn dilyn gwaith creu da Craig Bellamy. Curodd Bellamy ei ddyn yn y cwrt cosbi cyn croesi i Connolly ar ochr y cwrt chwech a gwnaeth yntau’r gweddill.

Chwaraeodd Bellamy ran yn yr ail ddeg munud yn ddiweddarach hefyd. Ef gaeth ei lorio ar ochr y cwrt cosbi cyn i Wittingham grymanu cic rydd wych i gefn y rhwyd gyda Matt Gilks yn y gôl i Blackpool o bosib yn disgwyl croesiad.

Ac roedd y tri phwynt yn ddiogel i’r Adar Gleision toc cyn yr awr diolch i ail gôl Connolly a thrydedd ei dîm. Roedd Wittingham yng nghanol hon hefyd, ei gic gornel ef ddaeth o hyd i Connolly yn y cwrt cosbi i benio heibio Gilks.

Ychydig iawn o gyfleoedd a greodd Blackpool a ddaeth tîm Ian Holloway ddim yn agos at sgorio tan y munud olaf pan darodd cic rydd Stephen Crainey, yn erbyn y trawst.

Buddugoliaeth dda i Gaerdydd felly a buddugoliaeth sydd yn eu codi i’r ail safle yn nhabl y Bencampwriaeth.

Barn Malky Mackay

Roedd rheolwr Caerdydd wrth ei fodd wrth siarad â’r BBC wedi’r gêm:

“Hwnna oedd ein perfformiad gorau o’r tymor o ystyried ein gwrthwynebwyr. Gyda’u carfan nhw, hwy yw ffefrynnau llawer o bobl i ennill y gynghrair ac fe sgorion ni dair gôl a chadw llechen lân yn eu herbyn”

.

Caerdydd

Tîm: Marshall, McNaughton, Taylor, Hudson, Connolly, Whittingham, Noone, Gunnarsson, Smith (Mason 25’), Helguson (Cowie 80’), Bellamy (Kim Bo-Kyung 72’)

Gôl: Connolly 17’, 57’, Wittingham 27’

Cerdiau Melyn: Hudson 90’, Cowie 90’

Blackpool

Tîm: Gilks, Crainey, Evatt, Baptiste, Broadfoot, Robertson (Osbourne 59’), M. Phillips, Sylvestre (Delfouneso 58’), Angel, K. Phillips, Dicko (Eccleston 60’)

Cerdiau Melyn: Crainey 61’, Evatt 75’

Torf: 21,216