Stoke 2–0 Abertawe

Colli fu hanes Abertawe am y drydedd gêm gynghrair yn olynol yn erbyn Stoke yn Stadiwm Britannia brynhawn Sadwrn.

Sgoriodd Petr Crouch ddwywaith yn yr hanner cyntaf a methodd yr Elyrch a tharo’n ôl yn erbyn tîm Tony Pulis.

Dim ond deuddeg munud oedd ar y cloc pan sgoriodd Crouch ei gyntaf gyda pheniad rhydd o gic gornel Glen Whelan. Cafodd Miguel Michu hanner cyfle i unioni’r sgôr i’r Elyrch wedi hynny ond methodd gyda chynnig o bellter.

Yna, dyblodd Crouch fantais y tîm cartref gyda’i ail ddeg munud cyn yr egwyl. Crëwyd y cyfle iddo gan Jonathan Walters ac er i Michel Vorm lwyddo i atal ymgais gyntaf Crouch fe sgoriodd yr ymosodwr tal ar yr ail gynnig.

Roedd Abertawe yn well yn yr ail hanner ac roedd Ben Davies yn meddwl ei fod yn haeddu cic o’r smotyn ddeg munud wedi’r egwyl ond yn hytrach na phwyntio at y gwyngalch fe aeth y dyfarnwr i’w boced i gosbi Davies am ddeifio.

Cafodd Crouch gyfle i gwblhau ei hatric wedi hynny ond tarodd ei beniad yn erbyn y trawst wrth i dîm y Cymro, Tony Pulis, fodloni ar ddwy gôl a thri phwynt cyntaf y tymor.

Dim pwyntiau mewn tair gêm i Abertawe ar y llaw arall ac mae’r canlyniad yn achosi iddynt ddisgyn i hanner gwaelod y tabl am y tro cyntaf y tymor hwn. Maent bellach yn yr unfed safle ar ddeg.

Barn Michael Laudrup:

“Mae’n siomedig ildio gôl o gic gornel ond rhaid sylweddoli ei bod hi’n amhosib chwarae yn Stoke am naw deg munud heb ildio ciciau cornel, ciciau rhydd neu dafliadau…

… Ond Wnaethon ni ddim creu gymaint ag arfer heddiw a rhaid inni dderbyn ein bod ni, am y trydydd tro yn y gynghrair, wedi methu sgorio. Mae’n llawer pwysicach meddwl am hynny na phoeni am y ffaith i Stoke sgorio yn ein herbyn o gic osod.”

.

Stoke

Tîm: Begovic, Cameron, Huth, Wilson, Shawcross, Whelan (Whitehead 81’), Nzonzi, Adam (Etherington 68’), Kightly, Walters, Crouch (Jones 86’)

Goliau: Crouch 12’, 36’

Cerdyn Melyn: Walters 57’

Abertawe

Tîm: Vorm, Chico, Williams, Rangel, Davies, Britton, Michu (Moore 74’), Pablo (Routledge 63’), Dyer, Ki Sung-Yeung, Graham

Cerdyn Melyn: Davies 55’

Torf: 27,330