Mae dynes wedi cael ei harestio ar amheuaeth o ladd pum babi newydd dros gyfnod o nifer o flynyddoedd, yn ôl yr heddlu yn yr Almaen.

Dywed yr awdurdodau yn ninas Flensburg bod y ddynes 28 oed wedi cyfaddef lladd dau fabi ar ôl i’w cyrff gael eu darganfod ym mis Mawrth 2006 a Mawrth 2007.

Mae’r fam hefyd yn cael eu hamau o ladd tri o fabanod eraill yn fuan ar ôl iddyn nhw gael eu geni.

Mae hi wedi cael ei chyhuddo o bum achos o ddynladdiad.

Ni ellir rhyddhau enw’r ddynes o dan gyfraith preifatrwydd yr Almaen.