Mae dynes wedi cael ei harestio ar ôl i dân ddinistrio tŷ ym Mhwllheli a difrodi tai cyfagos neithiwr.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i stryd Morfa’r Garreg tua 9.30yh neithiwr. Ni chafodd neb ei anafu yn y digwyddiad.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi arestio dynes 27 oed ar amheuaeth o gynnau tân yn fwriadol.