Gall y nifer y traethau yng Nghymru sydd â statws baner las ddisgyn yn sylweddol o achos yr haf gwlyb.
Dyna yw rhybudd Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, sy’n dweud fod un o’r hafau gwlypaf ers canrif wedi codi lefelau’r bacteria yn y dŵr o achos bod carthion a chemegau wedi eu golchi i’r môr.
Mae gan 43 o draethau statws baner las eleni, sy’n ddau yn fwy na’r llynedd, ond fe all y nifer yna ddisgyn medd Asiantaeth yr Amgylchedd.
Mae cyfarwyddyd newydd ar gyfer ansawdd dŵr ymolchi yn cael ei gyflwyno gan yr Undeb Ewropeaidd yn 2015, a bydd y safonau’n llymach na’r rhai presennol. Bydd traethau hefyd yn cael eu hasesu dros gyfnod o bedair blynedd yn hytrach na bod baner las yn cael ei rhoi neu ei thynnu nôl ar sail safon y dŵr mewn un flwyddyn yn unig.