Mae byrddau iechyd de Cymru wedi rhoi mwy o wybodaeth am eu bwriad i ganoli gwasanaethau arbenigol ar gyfer plant a phobol sy’n ddifrifol wael.

Bydd yr ad-drefnu yn arwain at ganoli triniaethau gofal plant a babis newydd, a thriniaethau damweiniau a brys, mewn pedwar neu pum ysbyty.

Bwriad byrddau iechyd y de yw canoli arbenigedd yn Ysbyty Athrofaol Cymru yn y Waun, ac Ysbyty Treforys ger Abertawe, a chreu canolfan arbenigedd yn Ysbyty Llandochau ym Mhenarth.

Mae’r byrddau yn ystyried sefydlu canolfan gofal difrifol yn Llanfrechfa ger Cwmbrân, a sefydlu canolfan arall un ai ym Merthyr Tudful, Llantrisant neu Benybont.

‘Israddio ysbytai’

Yn ôl y byrddau iechyd bydd y canolfannau yn gofalu am ganran bychan o gleifion, sef yr achosion mwyaf difrifol.

Cafodd yr argymhellion eu creu yn dilyn trafodaethau rhwng byrddau iechyd y de, ac ar ôl  cyfnod o drafod rhwng nawr a Rhagfyr 19 byddan nhw’n ymgynghori’n ffurfiol gyda’r cyhoedd ar gynlluniau pendant.

Yn ôl y Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths nid oes modd cynnal arbenigedd ym mhob un o ysbytai Cymru, ond mae llefarydd y Ceidwadwyr ar iechyd, Darren Millar, wedi dweud bod y cynlluniau yn ne Cymru yn arwain at israddio ysbytai ac y bydd cleifion yn gorfod teithio’n bellach i gael gofal.