Roedd yr heddlu, gweithwyr cymdeithasol a Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi “colli cyfleoedd” i geisio atal grŵp o ddynion rhag cam-drin merched ifainc dros nifer o flynyddoedd, yn ôl adroddiad sy’n cael ei gyhoeddi heddiw.
Roedd merched ifainc, rhai mor ifainc â 10, wedi cael eu targedu gan y grŵp ond fe gawson nhw eu hanwybyddu pan ddaeth i sylw nifer o asiantaethau oedd yn credu bod y merched “yn gwneud eu dewisiadau eu hunain”.
Cafodd adolygiad ei orchymyn ar ôl i naw o ddynion Asiaidd rhwng 22 a 69 oed gael eu carcharu yn Rochdale ger Manceinion am gam-drin merched ifainc.
Roedd y Bwrdd Diogelu Plant ym Mwrdeistref Rochdale (RBSCB) wedi dod i’r casgliad bod ’na “ddiffygion”yn y ffordd roedd y gwasanaethau cymdeithasol wedi ymateb i anghenion y merched a hynny oherwydd hyfforddiant annigonol rhai o’r staff.
Dywed Cyngor Rochdale eu bod wedi defnyddio’r adolygiad i gyflwyno cyfres o welliannau.