Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi darganfod ail gorff  mewn afon ger Wrecsam yn ystod oriau man bore ma.

Mae’n debyg mai corff dyn 25 oed oedd yn byw’n lleol gafodd ei ddarganfod toc wedi hanner nos.

Mae’r heddlu’n credu bod na gysylltiad rhwng y darganfyddiad dros nos a chorff dynes gafodd ei ddarganfod yn Afon Clywedog ddoe.

Roedd aelod o’r cyhoedd wedi dod o hyd i gorff y ddynes yn Afon Clywedog ger y fynedfa i Barc Erddig toc wedi 5yh ddydd Mercher.

Dywed yr heddlu bod y ddynes yn 27 oed ac yn byw yn ardal Wrecsam.

Mae’r heddlu’n trin y marwolaethau fel rhai anesboniadwy ar hyn o bryd ac mae’r crwner wedi cael ei hysbysu.

Mae’n debyg bod yr afon wedi gorlifo’i glannau ddoe oherwydd y glaw trwm.

Ddoe, roedd ffyrdd ger y safle lle cafwyd hyd i’r corff ar gau wrth i swyddogion fforensig barhau a’u hymchwiliadau.

Mae heddlu’r gogledd wedi apelio am dystion.