Dr Rowan Williams
Mae cyfarfod yn cael ei gynnal heddiw i ddewis olynydd i Archesgob Caergaint, Dr Rowan Williams.

Fe fydd pennaeth Eglwys Loegr yn gadael ei swydd ar ddiwedd y flwyddyn.

Bydd 16 o aelodau’r Cyngor sydd â’r hawl i bleidleisio yn dewis ei olynydd.

Bu Rowan Williams yn y swydd ers 2002.

Mae yna pum ymgeisydd blaenllaw yn y ras i olynu Dr Rowan Williams, sef Archesgob Efrog, John Sentamu; Richard Chartres, Esgob Llundain; Justin Welby, Esgob Durham; Christopher Cocksworth, Esgob Coventry a Graham James, Esgob Norwich.

Mae Graham James eisoes wedi dweud ei fod yn gobeithio na chaiff ei ethol.

Pan fydd Dr Rowan Williams yn gadael ei swydd, fe fydd yn dechrau ar ei swydd newydd yn Feistr ar Goleg Madlen yng Nghaergrawnt.