Chalara ar goed onnen
Mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru’n annog rheolwyr coetir a’r rhai sy’n gweithio yn y sector gofal coed yng Nghymru i gadw golwg ar goed ynn sydd newydd eu plannu rhag ofn eu bod yn dioddef o haint difrifol.

Mae’r Comisiwn yn cydweithio gyda gwyddonwyr o’r Asiantaeth Ymchwil Bwyd ac Amgylchedd (Fera) i olrhain coed ynn sydd wedi’u plannu yma yn ystod y pum mlynedd diwethaf i geisio sicrhau nad yw haint Chalara, sy’n peri coed ynn i farw, wedi cyrraedd Cymru.

Cafodd yr achosion cyntaf o’r haint eu nodi’n gynharach eleni mewn casgliad o blanhigion ynn mewn meithrinfa goed yn Swydd Buckingham. Ers hynny, mae wedi’i ganfod mewn planhigion mewn pum meithrinfa arall yn Lloegr ac mewn coed ynn ifanc newydd eu plannu ar bedwar safle yn Lloegr a’r Alban.

Mae yna le i gredu bod yr afiechyd wedi ei gysylltu â chyflenwyr yn yr Iseldiroedd.

Mae coed ynn yn cyfrif am 5% o goetir Cymru.

Arwyddion amheus

Dywedodd Pennaeth Rheoleiddio Coedwigoedd ac Iechyd Coed Comisiwn Coedwigaeth Cymru, John Browne: “Rydyn ni’n annog pawb sydd wedi plannu coed ynn yn ystod y pum mlynedd diwethaf i gadw golwg ar iechyd y coed hynny ac adrodd i ni ar unwaith os bydd unrhyw arwyddion amheus.

“Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda Fera i olrhain y coed ynn wedi’u plannu yng Nghymru yn ystod y pum mlynedd diwethaf.

“Bydd meithrinfeydd yn cael eu harchwilio a byddwn yn cadw llygad barcud ar goed ynn ac yn dinistrio unrhyw goed wedi’u heintio.

“Gan ein bod yn gwybod erbyn hyn fod Chalara fraxinea wedi cyrraedd y fasnach meithrinfeydd ym Mhrydain, rydyn ni’n ofni ei bod yn bosibl y byddwn yn dod ar draws rhagor o goed wedi’u heintio.”

Mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn annog unrhyw un sy’n amau bod afiechyd ar goeden onnen yn eu hardal nhw i gysylltu â nhw ar unwaith.

Ychwanegodd John Browne: “Gallai ffwng Chalara ladd miliynau o goed ynn petai’n lledaenu i’r gwyllt fel y mae wedi gwneud ar dir mawr Ewrop – yn Nenmarc, er enghraifft, mae’n debyg ei fod wedi lladd rhwng 60% a 90% o’r holl boblogaeth o goed ynn.”

Ond y gobaith yw y bydd yn bosibl cadw’r haint rhag lledaenu drwy gadw golwg ar y coed ynn ifanc yng Nghymru a lladd yr haint yn y fan a’r lle.