Andy Williams
Mae’r canwr Americanaidd Andy Williams wedi marw yn 84 oed, yn dilyn brwydr gyda chanser.

Roedd yn fwyaf enwog yng Nghymru fel canwr y gân bêl-droed anthemig, ‘Can’t Take My Eyes Off You’.

Roedd wedi dathlu 75 o flynyddoedd fel canwr a diddanwr yn 2012.

Yn ystod ei yrfa, enillodd 17 o albymau aur a thri albwm platinwm.

Roedd hefyd yn enwog am ganu fersiwn o’r gân ‘Moon River’  o’r ffilm ‘Breakfast at Tiffany’s’.

Cafodd wybod yn 2011 ei fod yn dioddef o ganser y bledren.

Dechreuodd ei yrfa fel canwr ar ei ben ei hun ym 1952 ar ôl treulio nifer o flynyddoedd yn canu gyda’i frodyr.

Roedd hefyd yn adnabyddus fel cyflwynydd teledu, a’i raglen The Andy Williams Show oedd y sbardun ar gyfer gyrfa’r brodyr yr Osmonds.