Y Vetch
Bu farw cyn-reolwr Abertawe, John Bond yn 79 oed.

Bu’n rheolwr ar yr Elyrch rhwng mis Rhagfyr 1984 a mis Rhagfyr 1985.

Llwyddon nhw i osgoi disgyn i’r Bedwaredd Adran yn ystod y tymor 1984-85, ond ar ôl dechrau gwael i’r tymor canlynol cafodd ei ddiswyddo.

Fel chwaraewr, cynrychiolodd West Ham 444 o weithiau rhwng 1950 a 1966.

Bydd yn cael ei gofio’n bennaf am ei gyfnodau’n rheoli Norwich a Manchester City.

Cyrhaeddodd Manchester City rownd derfynol Cwpan yr FA ym 1981, a cholli i Tottenham Hotspur.

Collodd Norwich yn erbyn Aston Villa yn rownd derfynol Cwpan y Gynghrair ym 1975.