Gemau’n Cael eu Gohirio

Cafodd tri chwarter y gemau yn ail rownd Cwpan The Word eu gohirio oherwydd y glaw trwm nos Fawrth. Cafodd y glaw’r gorau o chwe gêm yn y gystadleuaeth gwpan newydd ac mae’r gemau wedi eu hail drefnu ar gyfer nos Fawrth nesaf.

Dim ond dau ganlyniad a gafwyd:

.

Port Talbot – 2 (Dylan Blain 43’, James Wood (g.o.l.) 86’)

Aberystwyth – 2 (Wyn Thomas 65’, Glyndwr Hughes 80’)

(Port Talbot yn ennill ar ôl ciciau o’r smotyn)

(Torf – 140)

.

Rhyl – 1 (Steve Lewis 69’)

Gap Cei Connah – 3 (Rhys Healey 27’, 67’, Jordan Beck 56’)

(Torf – 204)