Telford 2–4 Casnewydd
Cafwyd gwledd o goliau a digon o gyffro yn Bucks Head nos Fawrth wrth i Gasnewydd drechu Telford oddi cartref yn Uwch Gynghrair y Blue Square.
Er i Telford fynd ar y blaen hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf roedd Casnewydd ar y blaen yn gynnar yn yr ail gyfnod. Yna yn yr ugain munud olaf derbyniodd dau o chwaraewyr Telford gerdyn coch a chwblhaodd yr ymwelwyr o Gymru’r fuddugoliaeth gyda dwy gôl arall.
Rhoddodd Kieron St Aimie y tîm cartref ar y blaen wedi llai na hanner awr cyn i Aaron O’Connor unioni pethau i’r tîm o Gymru cyn yr egwyl wedi i Danny Crow ddod o hyd iddo yn y cwrt cosbi.
Roedd Casnewydd ar y blaen wedi dim ond pedwar munud o’r ail hanner pan sgoriodd Dan Preston i’w rwyd ei hun. Ac aeth pethau o ddrwg i waeth i’r tîm cartref ychydig funudau’n ddiweddarach pan dderbyniodd St Aimie gerdyn coch.
Rhwydodd Ismail Yakubu drydedd Casnewydd ugain munud o’r diwedd cyn i Preston dderbyn cerdyn coch i’r tîm cartref hefyd.
Roedd y tri phwynt yn ddiogel i dîm Justin Edinburgh felly ond roedd digon o amser ar ôl i Andy Sandell rwydo ddwywaith cyn y chwiban olaf. Sgoriodd yn y pen iawn i ddechrau gydag ergyd dda o bellter cyn penio’r bêl i’w rwyd ei hun i roi gôl gysur hwyr i naw dyn Telford.
Mae’r fuddugoliaeth yn cadw Casnewydd ar frig tabl y Blue Square wrth i’w dechrau gwych i’r tymor barhau.
.
Telford
Tîm: Young, Salmon, Preston, Rose, Davies (Rooney 75’), Trainer, St Aimie, Leslie, Taylor, Jones (Hubbins 75’), Spray (Byfield 84’)
Goliau: St Aimie 27’, Sandell (g.o.l.) 81’
Cardiau Melyn: Davies 29’, Preston 63’, Jones 72’,
Cardiau Coch: St Aimie 54’, Preston 74’
Casnewydd
Tîm: Pidgeley, James (Swallow 82’), Yakubu, Pipe, Porter, Minshull, Sandell, Evans (Thomson 43’), O’Connor, Crow (Flynn 59’), Louis
Goliau: O’Connor 45’, Preston (g.e.h.) 49’, Yakubu 72’, Sandell 78’
Cardiau Melyn: James 30’, Crow 55’, Sandell 80’
Torf: 1,503