Wrecsam 3–0 Barrow
Harris - Sgoriwr y gyntaf (llun o wefan y clwb)

Sgoriodd Wrecsam deirgwaith wrth guro Barrow yn Uwch Gynghrair y Blue Square ar y Cae Ras nos Fawrth.

Rhoddodd Jay Harris y Dreigiau ar y blaen yn yr hanner cyntaf cyn i goliau Andy Bishop a Robert Ogleby gwblhau’r fuddugoliaeth wedi’r egwyl.

Rhwydodd Harris y gyntaf gydag ergyd wych o bellter hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf cyn i Adam Boyes fethu cyfle gorau’r ymwelwyr toc cyn y chwiban hanner.

Dyblwyd y fantais hanner ffordd trwy’r ail gyfnod pan sgoriodd Bishop wedi i Barrow fethu â chlirio cic rydd Dean Keates.

Ac roedd y tri phwynt yn ddiogel saith munud o’r diwedd pan rwydodd yr eilydd, Ogleby, drydedd gôl y gêm.

Mae’r fuddugoliaeth yn cadw Wrecsam yn drydydd yn nhabl y Blue Square wedi i bob tîm yn y pump uchaf ennill nos Fawrth.

.

Wrecsam

Tîm: Mayebi, Ashton, Riley, Walker, Cieslewicz (Ogleby 72’), Harris, Keates, Clarke (Colbeck 86’), Hunt, Wright, Bishop (Ormerod 79’)

Goliau: Harris 18’, Bishop 71’, Ogleby 83’

Cerdyn Melyn: Harris 45’

Barrow

Tîm: Hurst, Flynn, Aldred, Skelton, Pearson, Owen, Rutherford, Baker, McConville (Rowe 79’), Boyes, Hunter (Jackson 72’)

Torf: 2,881