Crawley 2–3 Abertawe
Monk - arwr hwyr Abertawe
Roedd angen gôl hwyr Garry Monk ar Abertawe i drechu Crawley yn Stadiwm Broadfield nos Fawrth yn nhrydedd rownd Cwpan y Gynghrair.
Aeth yr Elyrch ar y blaen yn yr hanner cyntaf cyn i’r tîm cartref daro’n ôl gyda goliau o boptu hanner amser. Ond dangosodd Abertawe yn y diwedd pam eu bod yn chwarae ddwy gynghrair uwch ben Crawley wrth ennill y gêm gyda goliau hwyr Danny Graham a Monk.
Cafodd Luke Moore a Wayne Routledge gyfleoedd da i roi’r Elyrch ar y blaen cyn i Miguel Michu wneud hynny gydag ergyd dda yn dilyn gwaith da gan Routledge ar yr asgell.
Cafodd Abertawe gyfleoedd i ddyblu’r fantais ond gorffennodd Crawley’r hanner yn gryf. Daeth Billy Clarke yn agos gydag ymdrech din dros ben cyn i Josh Simpson unioni’r sgôr gydag ergyd o bellter a wyrodd heibio Gerhard Tremmel yn y gôl i’r Elyrch.
Ac aeth pethau o ddrwg i waeth i’r tîm Uwch Gynghrair toc wedi’r awr pan ddaeth Hope Akpan o hyd i gefn y rhwyd wedi i Jonathan Forte ddod o hyd iddo yntau yng nghwrt cosbi Abertawe.
Methodd Forte ei hunan gyfle euraidd i ychwanegu trydedd i Crawley cyn i’r Elyrch gryfhau yn y chwarter awr olaf.
Unionodd Graham y sgôr pan beniodd groesiad gwych Dwight Tiendalli i gefn y rhwyd a llwyddodd yr ymwelwyr i osgoi amser ychwanegol diolch i beniad hwyr Monk o gic gornel Routledge.
Cael a chael i Abertawe yn y diwedd ond buddugoliaeth gyntaf mewn pedair gêm i dîm Michael Laudrup.
.
Crawley
Tîm: Jones, Sadler, Walsh, Byrne, Davis, Akpan, Clarke (Ajose 85’), Simpson, Bulman, Adams, Forte (Alexander 85’)
Goliau: Simpson 45’, Akpan 62’
Cerdyn Melyn: Byrne 19’
Abertawe
Tîm: Tremmel, Monk, Tiendalli, Davies, Britton, Michu (Donnelly 58’), Routledge, Ki Sung-Yeung, Gower, Richards (Graham 67’), Moore
Goliau: Michu 27’, Graham 74’, Monk 90’
Cerdyn Melyn: Michu 32’
Torf: 3,963