Mae Amgueddfa Griced Cymru yn agor ei drysau i’r cyhoedd am y tro cyntaf heddiw, yn dilyn lansiad swyddogol yn ei chartref yn Stadiwm Swalec ddoe.
Mae’r amgueddfa, a gafodd ei sefydlu ar y cyd rhwng Clwb Criced Morgannwg a chwmni aml-gyfrwng CC4, yn adrodd hanes criced yng Nghymru.
Hon yw’r amgueddfa chwaraeon bwrpasol gyntaf yng Nghymru, a chaiff ei hariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a nifer o gyrff eraill.
Fe fydd cyfle i ymwelwyr brofi eu sgiliau criced mewn gemau cyfrifiadurol yn erbyn rhai o ‘fowlwyr’ enwocaf y sir.
Mae’r gêm BATIO, sydd wedi ei chreu gan Wii ac sydd wedi ei datblygu gan gwmni technoleg yn Plymouth, yn cynnig y cyfle i’r ymwelwyr wynebu bowlio Robert Croft, Don Shepherd a Simon Jones.
Yn y gêm SHWMAE ar gyfer Xbox, a gafodd ei datblygu gan fyfyrwyr Prifysgol Solent yn Southampton, gall ymwelwyr ddewis eu hoff chwaraewyr a herio’r cyfrifiadur.
Myfyrwyr Prifysgol Morgannwg sydd wedi llunio’r arddangosfa TaleEnders, sy’n olrhain hanes criced yng Nghymru drwy gasglu atgofion chwaraewyr mewn nifer o glybiau.
Taith ryngweithiol
Bydd cyfarpar criced nifer o enwogion clwb Morgannwg yn cael ei arddangos, a bydd cyfle i weld sut mae’r gêm wedi datblygu ers y ddeunawfed ganrif.
Mae’r amgueddfa’n cynnwys llinell amser sy’n dangos datblygiadau’r gamp yng Nghymru, ac mae’n cofnodi nifer o ddigwyddiadau hanesyddol Morgannwg, gan gynnwys Prawf Cyntaf Cyfres y Lludw yn 2009.
Bydd plant yn derbyn pecynnau addysgiadol wrth iddyn nhw gyrraedd yr amgueddfa, a bydd cyfle hefyd i fynd ar daith o amgylch Stadiwm Swalec.
Archifydd Clwb Criced Morgannwg, Dr. Andrew Hignell yw curadur yr amgueddfa.
Dywedodd: “Bydd Amgueddfa Griced Cymru CC4 yn deyrnged briodol iawn i hanes gyfoethog criced yng Nghymru, yn ogystal â helpu i ddod â hanes yn fyw. Rwy wir yn edrych ymlaen at rannu’r stori wefreiddiol hon gydag ymwelwyr â phencadlys Morgannwg yn y misoedd a’r blynyddoedd i ddod.”
Dywedodd pennaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru, Jennifer Stewart: “Mae chwaraeon wedi chwarae rhan bwysig wrth helpu i ddiffinio Cymru fel cenedl. Bydd y prosiect hwn yn rhannu hanes hir criced yng Nghymru ac y mae wedi creu adnodd y gall genedlaethau presennol a’r dyfodol ddysgu ohono a’i fwynhau.
Ychwanegodd Rheolwr Gyfarwyddwr CC4, Huw Owen: “Peidiwch â chael eich siomi gan y gair ‘Amgueddfa’ – yn ogystal â bod yn ddathliad o dreftadaeth griced gyfoethog Cymru, bydd pobl hefyd yn rhyngweithio gyda phresennol a dyfodol criced yng Nghymru pan fyddan nhw’n ymweld â’r atyniad ardderchog hwn yng nghartref Clwb Criced Morgannwg.”